Rydym yn Sefydliad Hyfforddiant Datganoledig (DTO) gydag Awdurdod Hedfan Sifil y DU (CAA). Gallwn gynnig hyfforddiant hedfan wrth fynd ar drywydd PPL, LAPL neu NPPL ar gyfer awyrennau Piston Injan Sengl (SEP). Nid ydym yn cynnig hyfforddiant hofrennydd na thrwydded fasnachol. Os oes gennych drwydded sydd wedi dod i ben, neu os nad ydych yn siŵr beth yw’r drwydded ar eich cyfer chi, cysylltwch â ni drwy’r dudalen Cysylltu â Ni i drafod eich gofynion ymhellach.
Rydym yn glwb bach sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr sy’n gweithredu’n bennaf ar benwythnosau. Mae gennym awyrgylch hamddenol a chyfeillgar ac mae llawer o fyfyrwyr yn ymuno â ni i fwynhau ein hymagwedd hamddenol ond proffesiynol. Os ydych yn bwriadu cwblhau eich trwydded yn gyflym, o ystyried y ffaith y gallwn hedfan ar y penwythnos yn unig, efallai y dymunwch ystyried dewis rhywle arall i ddysgu. Mae'r clwb yn gweithredu Cessna 152 (1981), manylion cofrestru: G-BILS ar gyfer hyfforddiant. Mae "Lima Sierra", sy'n awyren amryddawn, sy'n gwisgo'n galed ac yn effeithlon, yn un o hoelion wyth Clwb Hedfan Mona!
Gall PPL llawn gymryd 18 - 24 mis i'w gyflawni gyda ni a bydd yn costio oddeutu £7,000 i £8,000. Nid ydym yn credu yn y ‘gwerthu caled’ ac yn fwy na dim rydym am i chi fwynhau eich amser gyda ni. Yn ogystal â hyfforddiant ymarferol, mae gennym yr awdurdod i weinyddu a goruchwylio arholiadau peilot preifat CAA ar-lein. Rydym yn gwerthu offer peilot Pooleys a gallwn roi popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich hobi newydd. Peidiwch â phoeni - byddwn ond yn argymell rhywbeth i chi pan fyddwch ei angen ac rydych yn rhydd i brynu yn rhywle arall neu ddefnyddio eich un eich hun! Ond efallai yr hoffech chi brynu mwg neu ddillad arbennig Clwb Hedfan Mona! Dangosir ein Prisiau cyfredol ar ein tudalen Prisiau.
Copyright © 2022 Mona Flying Club - All Rights Reserved.
Mona Aviation Ltd trades as Mona Flying Club
Powered by GoDaddy Website Builder