Mae Clwb Hedfan Mona yn gweithredu awyrendy mawr, diogel gyda goleuadau, teledu cylch cyfyng a chyfleusterau toiled. Gall aelodau'r clwb leoli eu hawyrennau ym Mona unwaith y byddant wedi'u cymeradwyo gan y Pwyllgor ac yn unol â set o amodau penodedig. Mae mynediad 24 awr / 7 diwrnod yr wythnos ar gael i aelodau'r clwb sydd â'r cymwysterau angenrheidiol. Os hoffech chi holi am awyrendy ar gyfer eich awyren ym Mona cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen Cysylltwch â Ni.
Mae defnydd o unrhyw un o wasanaethau’r Clwb yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddal a chynnal aelodaeth flynyddol o’r Clwb. Mae aelodaeth yn rhedeg rhwng Ebrill a Mawrth bob blwyddyn ac mae angen taliad llawn am y flwyddyn wrth ymuno ac erbyn 1af Ebrill bob blwyddyn. Nid oes angen aelodaeth ar ymwelwyr dydd (gweler "Ymwelwch â Ni" am ragor o wybodaeth) a bydd y rhai sy'n cymryd rhan mewn gwersi prawf yn gallu cael aelodaeth dros dro, y mae ei bris wedi'i gynnwys yn ffi'r wers brawf. Mae prisiau i'w gweld ar y dudalen Prisiau.
Mae'r clwb yn gweithredu Cessna 152, G-BILS (1981) sydd ar gael i'w llogi gan beilotiaid cymwys. Er mwyn bodloni gofynion ac yswiriant y Clwb, efallai y bydd angen i beilotiaid neu aelodau newydd gael reid siec gydag un o hyfforddwyr y clwb. Gellir archebu llogi'r awyren trwy ein porth hedfan ar-lein. Mae myfyrwyr yn cael blaenoriaeth ar gyfer archebu llogi awyrennau. Mae prisiau i'w gweld ar y Dudalen Prisiau. I gael mynediad i’n porth archebu ar-lein ewch i: https://monaflyingclub.co.uk/Login.aspx
Mae'r clwb yn gweithredu dau efelychydd hedfan Microsoft gyda rheolyddion realistig. Gellir defnyddio rhain pan fydd y tywydd yn anaddas neu i brofi hedfan cyn mynd i mewn i awyren.
Mae'r clwb hefyd yn gwerthu nwyddau hedfan Pooleys ac yn cynnal stoc o eitemau a ddefnyddir yn aml yn y clwb. Y prisiau yw'r rhai a restrir yn: https://www.pooleys.com
Copyright © 2022 Mona Flying Club - All Rights Reserved.
Mona Aviation Ltd trades as Mona Flying Club
Powered by GoDaddy Website Builder